Mae gofalwyr maeth LHDTC+ yn gyfran llawer mwy o’r gofalwyr yng Nghymru, yn ôl ffigurau newydd.
Mae yna 56 o gartrefi LHDTC+ yng Nghymru, cynnydd o 30% o’i gymharu â 2024.
Maethu Cymru Sir Benfro yn annog pobl LHDTC+ i ystyried gwneud ymholiadau i ddod yn ofalwyr maeth a newid bywydau yn 2026.
Gall cyplau neu bobl sengl faethu, ac mae gan nifer o bobl LHDTC+ brofiad bywyd personol unigryw i’w gynnig i ofal plant a phobl ifanc.
Dywedodd Rheolwr Tîm Maethu Sir Benfro, Oliver Mathias: “Rydym yn gwybod bod plant a phobl ifanc yn ffynnu pan fyddant yn cael gofal gan oedolion sydd ag agwedd agored, tosturiol, ac sy’n gallu gwerthfawrogi pwy ydynt. Yn Maethu Cymru, rydym yn falch o groesawu gofalwyr o’r gymuned LHDTC+ ac o bob diwylliant, ffydd, strwythur teuluol a chefndir.
“Rydym wedi ymrwymo i barchu a dathlu amrywiaeth, ac i sicrhau bod pawb sy’n rhoi cynnig ar faethu yn cael eu trin ag urddas, tegwch a pharch. Yr hyn sydd bwysicaf i ni yw nid pwy ydych chi na phwy rydych chi’n ei garu, ond eich gallu i ddarparu cartref diogel, meithringar a chroesawgar lle gall plant deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn perthyn.”
Dywedodd Sian Evans, gofalwr maeth: “Nid oeddwn wir yn teimlo bod bod yn hoyw wedi chwarae unrhyw ran yn fy nhaith i ddod yn ofalwr maeth – a fel hynny dylai fod.
“Dim ond rhan fach o bwy ydw i a’r hyn sydd gen i i’w gynnig yw fy nghyfeiriadedd rhywiol, ac nid wyf wedi cael dim byd ond parch a phroffesiynoldeb gan weithwyr gofal cymdeithasol.
“Rwy’n ei weld fel peth cadarnhaol, gan y gallaf gefnogi rhai o’r bobl ifanc rwy’n eu cyfarfod yn well.”
Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru: “Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth eithriadol i blant a phobl ifanc bob dydd trwy gynnig sefydlogrwydd, dealltwriaeth a lle diogel i ffynnu. Maent yn defnyddio eu profiadau bywyd eu hunain, eu tosturi a’u gwydnwch i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn. I rai plant, gall gofalwyr maeth eu helpu i symud tuag at fabwysiadu, a fydd yn darparu’r sicrwydd cydol oes yna sydd ei angen arnynt pan nad yw dychwelyd at eu teulu geni yn bosibl.
“Gyda chyn gymaint o blant angen cartrefi cariadus ar hyn o bryd, byddem yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu neu fabwysiadu i ddechrau sgwrs gyda’u tîm lleol heddiw.”