sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

cymorth a lwfans yn Sir Benfro

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Sir Benfro yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
  • tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • a llawer mwy o fuddion.

Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.

Yn Maethu Cymru mae’n bwysig i ni bod plant yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Yn Sir Benfro taliad lwfans y plentyn yw £274-£312 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Mae’r rhan hon o’r taliad yn cael ei rhoi at ddiben penodol prynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad neu nwyddau ymolchi ynghyd â thalu biliau cartref ychwanegol.

ffi gofalwr maeth

Mae ffioedd yn cael eu talu ar ben lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Yn Sir Benfro, mae’r elfen ffioedd yn amrywio o £178 yn dibynnu pa mor hir rydych chi wedi bod yn ofalwr maeth, pa brofiad sydd gennych a pha fath o faethu rydych chi’n ei wneud.

taliadau ychwanegol

Yn Sir Benfro, rydym hefyd yn darparu taliad ar gyfer pen-blwydd y plentyn, gwyliau crefyddol a threuliau milltiroedd, yn ogystal â darparu offer fel dodrefn ystafell wely babi neu blentyn yn ôl yr angen.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

A family walking together towards the beach

tîm maethu lleol

Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun.  Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.

A family looking at their iPad and laughing

cymorth cyfoedion

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill.  I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd, ac atgofion newydd i chi. Bydd gofalwyr maeth arloesol profiadol yn eich cefnogi chi.

Adult helping young boy with homework in kitchen

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

Adult and young girl baking together in kitchen

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Discussion icon

gweithgareddau, digwyddiadau a theithiau cerdded llesiant

Rydym yn cynnig grwpiau cymorth, gweithgareddau a theithiau cerdded llesiant rheolaidd mewn lleoliadau lleol.

Car icon

diwrnodau allan yn ystod gwyliau'r ysgol

Diwrnodau allan i bawb.

Social worker icon

grŵp babanod a phlant bach

Cwrdd â gofalwyr maeth lleol eraill sy’n gofalu am fabanod a phlant bach.

Agreement icon

maethu cyfeillgar

Absenoldeb ychwanegol os ydych chi’n gweithio i Gyngor Sir Penfro ac yn maethu gyda ni.

 

Icon of tickets/passes

tocyn hamdden

Tocyn Hamdden Sir Benfro gostyngol ar gyfer gofalwyr maeth; tocyn hamdden am ddim i blant mewn gofal.

First Steps icon

y dreth gyngor

Mae Maethu Cymru Sir Benfro yn cynnal cynllun y dreth gyngor dwy flynedd sy’n cynnig gostyngiad o 100% i ofalwyr cymwys.