pwy all faethu?
Mae pob plentyn yn unigryw, ac mae pob gofalwr maeth hefyd. Rydyn ni’n falch o’n cymuned amrywiol.
pwy all faethucydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Rydyn ni’n credu y gallwn ni helpu plant maeth lleol i ffynnu yn eu cymunedau, gyda gwaith tîm, brwdfrydedd ac ymroddiad.
Ni yw Maethu Cymru Sir Benfro, rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol nid-er-elw o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
.
Er bod llawer i’w ystyried, rydyn ni gyda chi bob cam o’r ffordd. Dysgwch sut mae maethu’n gweithio yng ngorllewin Cymru.
Drwy ymuno â chymuned Maethu Cymru Sir Benfro, byddwch yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant, gan arwain at hapusrwydd a diogelwch i bopeth maen nhw’n ei wneud.
Mae gennyn ni’r strwythur cefnogi gorau posibl i helpu i’ch arwain a’ch datblygu cymaint â’r plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.
Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Gallwch ddibynnu arnon ni i helpu. Beth rydyn ni’n ei gynnig.
gall maethu yn sir benfro fod yn brofiad sy’n newid bywydau pawb sy’n gysylltiedig â hynny. efallai y bydd dechrau arni’n haws nag yr ydych yn ei feddwl.