ffyrdd o maethu
eisoes yn maethu?
yn maethu ar gyfer asiantaeth neu awdurdod lleol arall?
Os ydych eisoes yn maethu i asiantaeth neu awdurdod lleol arall, rydych eisoes wedi dangos eich ymrwymiad i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc mewn angen, gan gynnig cartref diogel a gofalgar iddynt.
- Efallai eich bod wedi cael eich cymeradwyo ers peth amser ond heb gael cyfle eto i groesawu plentyn i’ch cartref.
- Neu efallai eich bod yn symud i Sir Benfro o awdurdod lleol arall.
- Neu efallai eich bod wedi cofrestru gydag asiantaeth ac yn maethu plentyn o Sir Benfro.
Rydym yn wasanaeth maethu nid-er-elw gyda’r plant wrth wraidd yr hyn a wnawn. Darganfyddwch beth all Maethu Cymru Sir Benfro ei gynnig i chi.
manteision maethu yn uniongyrchol gyda Maethu Cymru Sir Benfro
manteision maethu yn uniongyrchol gyda Maethu Cymru Sir Benfro
Trwy faethu’n uniongyrchol gyda’ch awdurdod lleol, byddwch yn rhan o dîm gyda gwybodaeth fanwl am daith plentyn, gwasanaethau lleol ac ysgolion, a fydd yn amhrisiadwy i chi fel gofalwr maeth. Mae gan dîm Maethu Cymru Sir Benfro flynyddoedd o brofiad yn cefnogi plant sydd angen gofal yn y sir.
Os ydych eisoes yn gofalu am blentyn o Sir Benfro, trwy drosglwyddo i ni, byddech yn rhan o’r tîm lleol o amgylch y plentyn ac yn cymryd mwy o ran yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud am ei ofal.
Rydym yn gyfrifol am bob plentyn sydd angen gofal yn Sir Benfro, sy’n cynnwys plant o bob oed. Rydym bob amser yn mynd at ein gofalwyr ein hunain ym Maethu Cymru Sir Benfro yn gyntaf, fel y gall plant aros yn agos at eu cartref, mynychu eu hysgol leol, a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.
yr hyn y mae Maethu Cymru Sir Benfro yn ei gynnig
yr hyn y mae Maethu Cymru Sir Benfro yn ei gynnig
Yn ogystal â chymorth penodedig gan ein gweithwyr cymdeithasol ymroddedig yn y tîm maethu, byddwch yn cael eich cefnogi gan eich cyd-ofalwyr maeth. Bydd y canlynol hefyd ar gael:
- Lwfans maethu (elfen plentyn ac elfen gofalwr) a lwfansau ychwanegol ar gyfer penblwyddi a gwyliau crefyddol, a phedair wythnos o lwfans gwyliau ychwanegol y flwyddyn.
- Taliadau ychwanegol am fod ar y rota wrth gefn.
- Aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu gyda’i ostyngiadau a gwasanaethau cysylltiedig.
- Cyngor ac ymgynghoriad arbenigol gan wasanaeth seicoleg penodol.
- Mentora gan gymheiriaid.
- Hyfforddiant cyn cymeradwyo helaeth a chyfleoedd hyfforddi rheolaidd.
- Cerdyn Hamdden Sir Benfro i’r teulu am bris gostyngol.
- Aelodaeth o Cadw.
Ymunwch â ni
- I gael gwybod mwy am drosglwyddo i ni, edrychwch ar ein Llyfryn Trosglwyddo neu ffoniwch ni ar 01437 774650 am sgwrs.