Busnesau lleol yn Sir Benfro

partneriaid maethu cymru

ydych chi’n fusnes lleol a hoffai gymryd rhan a chefnogi ein gwaith?

Mae Partneriaid Maethu Cymru yn gyfle gwych i fusnesau lleol, o unrhyw faint, gymryd rhan a chefnogi ein gwaith drwy:

  • rannu ein negeseuon am faethu awdurdod lleol;
  • helpu i recriwtio mwy o ofalwyr maeth;
  • cefnogi’r gweithwyr hynny sy’n gweithio ac yn maethu, neu’n ystyried dod yn ofalwyr maeth yn y dyfodol.

Mae Partneriaid Maethu Cymru yn ymwneud â chael y gymuned gyfan i ymuno â’n nod o greu dyfodol gwell i blant lleol.

mae’r busnesau canlynol bellach yn bartneriaid maethu cymru

gan gefnogi ein hangen i ddod o hyd i ragor o ofalwyr maeth yn Sir Benfro

Dewslake Farm Camping & Glamping

Quinns Training Services Limited

Coleg Sir Benfro

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Bartner Gofal Maeth, cysylltwch â ni heddiw: [email protected]