sut mae'n gweithio
y broses
y broses
Rydych chi ar fin cychwyn ar eich taith – ond pa mor hir mae’r broses faethu yn ei chymryd yn Sir Benfro, a beth allwch chi ei ddisgwyl?

y cam cyntaf
Y cam cyntaf i fyd cyffrous gofal maeth yw’r ymholiad cychwynnol hwnnw. Y sbarc hwnnw sydd wedi gwneud i chi fod eisiau gwybod mwy. A gan eich bod chi yma’n barod, mae’r rhan honno bron â chael ei chwblhau. Mae hyn eisoes yn dangos i ni eich bod yn dymuno gwneud gwahaniaeth i fywydau plant yn Sir Benfro. Efallai nad yw’n ymddangos fel llawer, ond mae hynny’n gam cyntaf i’r cyfeiriad iawn.

yr ymweliad cartref
Dyma lle mae tîm Maethu Cymru Sir Benfro yn dod i’ch cyfarfod chi. Mae’n gyfle i ddod i’ch adnabod chi, gweld ble a sut rydych chi’n byw er mwyn i ni allu meithrin perthynas dda o’r cychwyn cyntaf. Dydy hyn ddim yn rhy anodd. Dim ond ychydig o waith papur dros baned. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i ni gwrdd â’r bobl bwysig sydd eisoes yn eich bywyd, a allai fod ym mywyd y plentyn rydych yn mynd i ofalu amdano.

yr asesiad
Drwy gydol yr asesiad, byddwch yn deall yn well beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Dydy hyn ddim yn golygu ein bod ni’n profi pa mor haeddiannol ydych chi. Mae’n gyfle i ni weld yn well sut rydych chi’n byw ac yn rhyngweithio â phobl yn y gymuned. Mae hwn yn brofiad dysgu, felly mae hefyd yn ffordd wych i chi ac aelodau o’ch teulu ofyn unrhyw gwestiynau am bopeth sy’n ymwneud â gofal maeth. Beth bynnag yr hoffech ei wybod, mae gennyn ni’r atebion i chi.
Mae’n ymwneud â pharatoi ar gyfer y manteision a’r heriau a all ddod yn sgil gofal maeth.

y panel
Gall y panel swnio fel rhywbeth brawychus. Ond dydy e ddim. Mae ein panel yn cynnwys unigolion profiadol, a fydd yn y pen draw yn ystyried yr holl wybodaeth rydyn ni wedi’i chasglu yn eich asesiad.
Dydy’r panel ddim yn bodoli i roi golau coch neu wyrdd i’ch taith. Mae’n ymwneud ag edrych ar eich asesiad o bob ongl, a gwneud argymhellion ynghylch beth fyddai’n gweithio orau i chi.

y cytundeb gofal maeth
Ar ôl i’r panel ystyried eich sgiliau’ fel gofalwr maeth, byddwn yn gofyn i chi lofnodi’r cytundeb gofal maeth. Mae hyn yn amlinellu’n union beth mae bod yn ofalwr maeth yn Sir Benfro yn ei olygu. Mae hefyd yn rhoi manylion yr holl gefnogaeth, arweiniad a chyngor sydd ar gael i chi, diolch i Maethu Cymru. Nawr, gall eich stori faethu ddechrau.