pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Rydyn ni’n gwybod bod cychwyn y daith faethu yn her. Er ei bod yn bosibl eich bod eisoes yn cael cefnogaeth a help gan aelodau o’r teulu, rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennych chi sefydlogrwydd ariannol i ffynnu hefyd. Bydd y gefnogaeth ariannol sydd ar gael gennyn ni yn seiliedig ar agweddau fel faint o blant rydych chi’n eu maethu ac am ba hyd.

Er enghraifft, mae rhai gofalwyr maeth yn Sir Benfro yn derbyn rhwng £376 a £719 bob pythefnos ar hyn o bryd.

manteision eraill

Rydyn ni’n cynnig llawer mwy na dim ond cefnogi eich sefyllfa ariannol. Dyma rai o’r manteision gorau sydd ar gael i chi gyda Maethu Cymru Sir Benfro.

  • Aelodaeth o Foster Talk.
  • Gwasanaeth ymgynghori a chyngor arbenigol gan wasanaeth seicoleg pwrpasol.
  • Mentora cymheiriaid.
  • Hyfforddiant helaeth cyn-cymeradwyo a chyfleoedd hyfforddi rheolaidd.
  • Tocyn disgownt i’r teulu ar gyfer Gwasanaethau Hamdden Sir Benfro.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Mae 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru ac mae pob un wedi ymrwymo i Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision i bawb. Felly, drwy ymuno â ni, byddwch yn elwa o’r canlynol:

A happy family laughing together

un tîm

Dydych chi byth ar eich pen eich hun gyda Maethu Cymru, a dyna’r gwir. Rydyn ni’n un tîm sy’n gweithio gyda’n gilydd i wneud y gorau i blant lleol. Un gwasanaeth sy’n rhoi cyngor, yn rhannu syniadau ac yn dysgu cymaint ar hyd y ffordd.

Oherwydd mai ni yw’r Awdurdod Lleol, ni sy’n bennaf gyfrifol am bob plentyn yn ein gofal. Ein hangerdd, yn ogystal â’n pwrpas, yw gwneud y gorau iddyn nhw.

A smiling family standing in front of a castle

dysgu a datblygu

Mae’r holl fanteision rydyn ni’n eu cynnig yn gyson ar draws pob Awdurdod Lleol. Gyda hynny mewn golwg, mae’r un peth yn wir am ein hamrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi. Maen nhw’n ddibynadwy o ran datblygu gofalwyr maeth newydd i fod y gorau y gallan nhw fod.

Rydyn ni’n darparu’r holl offer a’r hyfforddiant i’ch galluogi i ddiwallu anghenion y plant yn eich gofal yn llawn. I fod yn hyderus ac yn abl. I fwynhau bod yn rhan o’r antur anhygoel hon yn y pen draw.

Er mwyn ein helpu i ddeall lle rydych chi a gyda beth allai fod angen help arnoch chi, byddwn yn rhoi cynllun hyfforddi unigol i chi. Mae’n ffordd wych o olrhain cynnydd, gweld pa mor bell rydych chi wedi dod yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol!

A dad and his two daughters sat on the beach

cefnogaeth

Mae’r aelodau medrus a phrofiadol sy’n rhan o Maethu Cymru yn gwneud yn siŵr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch chi, bob cam o’r ffordd.

P’un ai yw hynny’n gefnogaeth gan gymheiriaid neu gan weithwyr proffesiynol neu’n gymysgedd o’r ddau. Gall fod yn ddefnyddiol iawn gwrando ar brofiadau pobl eraill sydd yn eich sefyllfa, tra’n cael y gefnogaeth broffesiynol honno i ddatrys unrhyw broblemau a allai fod gennych chi hefyd. Mae’n ymwneud â chydweithio, a dyna beth rydyn ni’n ei wneud orau.

A smiling man and woman standing together outside their home

y gymuned faethu

Mae digon o gyfleoedd i gysylltu â theuluoedd maeth eraill yn ein digwyddiadau a’n gweithgareddau. Gall y rhain fod yn ffordd wych o ymlacio, cael hwyl a ffurfio perthnasoedd sy’n gallu para am oes.

Mae gwneud ffrindiau newydd, gwneud cysylltiadau newydd a dysgu pethau newydd i gyd yn rhan o’r broses.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn ni’n talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru.

Mae’r sefydliadau hyn yn arbenigo mewn cynnig hyd yn oed mwy o arweiniad, cyngor, addysg a chefnogaeth i’r rhai sydd angen hynny. Maen nhw’n cynnig llu o fanteision eraill hefyd. Mae hyn yn bwysig i ni ac i chi, a dyna pam ein bod yn darparu hyn i chi.

Three siblings skimming rocks on the beach

llunio’r dyfodol

Mae o ble rydyn ni wedi dod yn beth pwysig i’w gofio. Ond mae Maethu Cymru yn arbenigo mewn lle rydyn ni’n bwriadu mynd. Allwn ni ddim newid yr hanes heriol y mae rhai ohonon ni wedi’i brofi. Ond gyda’n gilydd gallwn ni, a byddwn ni, yn llunio’r dyfodol yn y ffordd rydyn ni am iddo fod.

Gyda ni, bydd pobl yn gwrando arnoch chi bob amser. Ymgyrch genedlaethol, sy’n gweithredu’n lleol i sicrhau’r hyn sydd orau i ofalwyr a phlant fel ei gilydd. Allwn ni ddim dysgu oni bai ein bod yn gwrando, felly mae croeso i chi rannu unrhyw beth â ni, byddwn ni’n falch o glywed gennych chi!

Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn eich helpu unrhyw ffordd y gallwn ni. Y deinamig hwn yw’r hyn rydyn ni’n ei ddymuno ar gyfer ein sefydliad a dyma beth rydyn ni’n dymuno ei gael ar gyfer ein teuluoedd maeth. Gyda’n gilydd gallwn lunio dyfodol y plant hyn. Dyfodol sy’n sicrhau diogelwch a hapusrwydd am flynyddoedd i ddod.

A castle in Pembrokeshire

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol

  • Cyngor Sir Penfro yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Penfro yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.