pam maethu gyda ni?
pam ein dewis ni?
pam ein dewis ni?
Ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol nid-er-elw ledled Cymru. Rydyn ni yma i helpu.
Creu dyfodol gwell i blant lleol yw ein nod. Dyna sydd bwysicaf. Os mai dyna sy’n bwysig i chi hefyd, gadewch i ni ddechrau arni.

ein cenhadaeth
Mae angen ein help ni ar blant ledled Sir Benfro. Maen nhw’n fabanod, yn blant bach, yn bobl ifanc yn eu harddegau, yn frodyr a chwiorydd ac yn Mae straeon pob un yn unigryw, ond mae ein cenhadaeth yr un fath ar gyfer pob plentyn: creu dyfodol gwell.

ein cefnogaeth
Mae’r gefnogaeth rydyn ni’n ei rhoi i’n gofalwyr maeth a’n plant yn unigryw. Rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch i ffynnu fel gofalwr: boed yn hyfforddiant gan weithwyr proffesiynol ymroddedig neu’n gyngor a chyfeillgarwch gan ein cymuned o ofalwyr.

ein ffyrdd o weithio
Rydyn ni’n gweithio ar y cyd fel un grym cadarnhaol ar fywydau plant. Mae hapusrwydd, diogelwch a chreu dyfodol disglair wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.
Dydyn ni ddim yn sefydliad pell. Rydyn ni’n rhan o’ch cymuned. Rhan o wead eich bywyd bob dydd.
Ond dyma sy’n ein cymell ni, ac mae ein cyfundrefn gefnogi yn golygu y gallwn ddelio â beth bynnag a ddaw i’n rhan. Gyda’n gilydd.

eich dewis
Fyddwch chi ddim yn difaru dewis ymuno â chymuned Maethu Cymru Sir Benfro. Mae’r ffaith eich bod chi’n darllen hwn yn golygu ei bod yn debygol bod gennych chi lawer o’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano’n barod. Mae gweithio gyda ni yn golygu y gallwn wireddu’r dyheadau hynny o ofalu am blant mewn gofal.
Cysylltwch â ni i gymryd y cam cyntaf heddiw.