ffyrdd o faethu
mathau o faethu
mathau o faethu
Lle diogel i fwynhau bywyd, i brofi pethau newydd ac i gael cefnogaeth. Dyna beth rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i’w ddarparu i’n holl blant maeth. Gyda’ch help chi, gallwn ni wneud hyn.
Mae’r mathau o ofal maeth yn cwmpasu sbectrwm eang, ond eto mae pob un yn rhannu’r un dyheadau.
Gall maethu olygu aros dros nos, seibiant byr neu rywbeth mwy hirdymor.
gofal maeth tymor byr

Gall gofal maeth tymor byr fod am ddiwrnod, am fis neu am flwyddyn. Mae’n golygu bod y cynlluniau ar gyfer dyfodol plentyn yn dal i gael eu gwneud. Felly, fel gofalwr maeth tymor byr, rydych chi yno i ddarparu sefydlogrwydd a chefnogaeth nes ei bod yn amser ar gyfer y cam nesaf.
Rydych chi’n gweithio gyda ni ar y daith tuag at sicrhau ‘sefydlogrwydd’. Mae hyn yn golygu bod yno bob amser i helpu plentyn pan fydd eich angen chi arno, a’i helpu i symud ymlaen hefyd.

Dydy arhosiad byr ddim yn golygu effaith fach. Gofal maeth tymor byr yn aml yw’r newid cadarnhaol cyntaf i blentyn, a gall fod yn bont i ddyfodol disglair iawn.
gofal maeth tymor hir

Dydy rhai plant ddim yn gallu byw gartref. Dyna pam fod dewisiadau gofal maeth tymor hir yn Sir Benfro yn ffordd wych o sicrhau diogelwch a datblygiad y plant yn ein gofal.

Gallai hyn olygu dechrau newydd. Cychwyn taith i chi a’r plentyn rydych chi’n gofalu amdano. Antur sy’n llawn cariad a chwerthin, diogelwch a sefydlogrwydd am flynyddoedd i ddod. Dyna mae pob plentyn yn ei haeddu, a gyda’n gilydd gallwn ddarparu hynny.
mathau arbenigol o ofal maeth
Mae maethu tymor byr a thymor hir yn cwmpasu pob math o ofal maeth, gan gynnwys rhai mathau mwy arbenigol, y mae angen math penodol o gymeradwyaeth ar eu cyfer. Gallai’r rhain gynnwys...

seibiant byr
Gall amser i ffwrdd o fywyd bob dydd fod yn help mawr i blant a’u teuluoedd. Mae seibiant byr yn gwneud hyn yn bosibl.
Gall cael plentyn i aros dros nos, yn ystod y dydd neu ar benwythnosau – sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘ofal cymorth’ – chwarae rhan enfawr yn nhwf y plentyn hwnnw. Mae seibiant byr yn cael ei gynllunio gydag anghenion y plentyn yn ganolog iddo, ac mae’n gyfle iddo brofi pethau newydd mewn amgylchedd diogel, i dyfu ac i feithrin cysylltiadau.

rhiant a phlentyn
Gyda maethu rhiant a phlentyn yn Sir Benfro, rydych chi’n rhannu eich sgiliau a’ch profiad magu plant eich hun â rhywun sydd wir angen y gefnogaeth honno. Gallai eich dealltwriaeth fod yn amhrisiadwy i rieni sydd ddim yn barod i wneud pethau ar eu pen eu hunain eto.

gofal therapiwtig
Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid meithrin anghenion emosiynol ac ymddygiadol plant yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol os ydyn nhw am gyrraedd eu potensial. Mae gofalwyr therapiwtig a’u plant yn cael cefnogaeth ychwanegol.