sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Efallai eich bod yn meddwl bod maethu yn fater o ofalu am blentyn, a dyna ni. Ond dydych chi byth yn gwneud hyn ar eich pen eich hun gyda Maethu Cymru Sir Benfro.

Gyda ni, byddwch yn gallu cael mynediad at ein timau cefnogi anhygoel. Pobl ymroddedig sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, yn union fel chi. Byddan nhw wrth law bob amser gydag arweiniad, cyngor a help i chi.

A family looking at their iPad and laughing

gwell gyda’n gilydd

Cefnogi – dyna beth rydyn ni’n ei wneud. Cefnogi’r plant yn ein gofal. Cefnogi eu teuluoedd maeth. A chefnogi’r gweithwyr proffesiynol medrus sy’n gweithio gyda ni i gyd bob dydd.

Mae ein cefnogaeth gystal diolch i’r ffordd rydyn ni’n gweithredu. Mae Maethu Cymru yn cynnwys 22 o Awdurdodau Lleol nid-er-elw ac mae’n gwneud popeth er mwyn y bobl. Dydyn ni ddim yn meddwl am elw na chyfalaf. Helpu, cefnogi a gofalu sy’n bwysig i ni.

Mum and her son walking

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Dim asiantaeth faethu gyffredin ydyn ni. Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Rydyn ni’n credu’n gryf mewn cadw’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw mewn cysylltiad â’u cymuned. Er ein bod yn amlwg yn ystyried popeth er lles y plentyn, mae cael y berthynas honno â’u hardaloedd lleol yn aml yn gallu bod yn help mawr. Mae adeiladu ar y cysylltiadau sydd ganddyn nhw’n barod yn bwysig i ni, ac rydyn ni’n hwyluso hyn cymaint â phosibl. Mae’n ymwneud â deall, gofalu a gwneud yr hyn sydd orau i bob plentyn unigol. Ac fel rhiant maeth gyda Maethu Cymru Sir Benfro, chi sy’n gwneud hynny’n bosibl.

mwy o wybodaeth am maethu cymru sir benfro:

A castle in Pembrokeshire

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Sir Penfro yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Penfro yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.