stori

mandy a neil

Mae Neil a Mandy Balfe wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Sir Benfro ers 2008 ac yn cael eu disgrifio gan y gweithiwr cymdeithasol sy’n eu goruchwylio fel “gofalwyr maeth eithriadol a rhagorol, a mentoriaid y dylid eu cymeradwyo am eu hymrwymiad anhygoel i faethu.”

pam y penderfynodd Neil a Mandy faethu

Dechreuodd rhieni Neil faethu pan oedd yn 16 oed ac roedd e’ bob amser wedi bod eisiau maethu.

Roedd Mandy, a hyfforddodd fel gweinyddes feithrin, yn gweithio yn uned asesu Mount Airey, yr oedd wedi helpu i’w sefydlu ochr yn ochr â’r athrawes, gan weithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Yna symudodd i Syr Thomas Picton lle roedd yn rhannu swydd gyda ffrind, yn gofalu am blentyn â nam ar ei olwg.

Pan oedd eu bechgyn yn yr ysgol yn llawn amser, gweithiodd Mandy yn llawn amser gyda phlant ag anghenion arbennig yn Uned Lleferydd ac Iaith Hakin. Yno daeth ar draws plant a oedd yn derbyn gofal a phenderfynodd y cwpl ddarganfod mwy am ddod yn ofalwyr maeth.

Yn ffodus i Maethu Cymru Sir Benfro, cawsant eu cymeradwyo ym mis Mehefin 2008! 

sut y dechreuon nhw

Dechreuon nhw drwy gynnig seibiant penwythnos i blentyn gan fod hyn yn galluogi Mandy i weithio ochr yn ochr â gofalu amdano ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol. Roedd Mandy, Neil a’r teulu wedi mwynhau gofalu amdano gymaint nes iddyn nhw gynnig cartref i ferch 15 oed yn llawn amser.  Mae hi’n dal i fod yn rhan bwysig iawn o’u teulu 16 mlynedd yn ddiweddarach – y ferch na gawson nhw erioed. Ers 2013 mae Mandy wedi bod yn maethu’n llawn amser.

erbyn hyn, maent wedi gwneud pob math o faethu

Yn ystod eu gyrfa faethu, mae Neil a Mandy wedi darparu seibiant a seibiannau byr, yn ogystal â chartref tymor hir, i dros 40 o blant, y mae nifer ohonynt yn dal i fod mewn cysylltiad â nhw, gan droi atynt am gyngor a chymorth, ac mae’r person ifanc y maent wedi gofalu amdano dros y bum mlynedd ddiwethaf yn aros ymlaen gyda nhw ar sail Pan Fydda i’n Barod.  Nid oes unrhyw amheuaeth, bod Neil a Mandy wedi cyfrannu at hunan-barch a llesiant y bobl ifanc maent wir wedi gofalu amdanynt.

y pethau cadarnhaol am faethu pobl ifanc yn eu harddegau

Pan ofynnwyd iddynt am fanteision maethu pobl ifanc yn eu harddegau, dywedasant:

“Mae plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau yn gwneud cymaint mwy drostyn nhw eu hunain. Gyda phlant iau mae gennych chi ofynion bob awr o’r dydd a’r nos.Does dim newid cewynnau na’u dysgu nhw i ddefnyddio’r toiled. Maen nhw’n dal i allu cael stranc ond maen nhw’n rai gwahanol!!

Gallwch chi gael sgyrsiau diddorol gyda nhw ac mae ganddyn nhw fwy o ddealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd yn eu bywydau ac weithiau gallan nhw weld y pethau cadarnhaol o fod mewn gofal.

Ydy, mae pobl ifanc yn eu harddegau yn heriol ond mae pob oedran yn dod â’u heriau eu hunain ar y gwahanol gamau tyfu.

Ar ôl i chi ddod dros yr heriau gallwch chi gyflawni canlyniadau cadarnhaol sy’n rhoi boddhad mawr.”

un darn o gyngor i bobl ifanc

“Mae’r byd i gyd o’ch blaen chi, gallwch chi wneud unrhyw beth rydych chi ei eisiau mewn bywyd, ond mae angen i chi weithio’n galed i’w gael”.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A castle in Pembrokeshire

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Sir Penfro yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Penfro yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.