Dechreuodd Michelle a Malcolm, sydd wedi bod yn gariadon ers plentyndod ac a ddathlodd eu pen-blwydd priodas yn 28 yn ddiweddar, eu taith faethu â’r bwriad o ddarparu gofal seibiant i blentyn penodol. Bu Michelle yn gweithio fel Uwch-gynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac roedd yn adnabod teulu a oedd wedi bod yn chwilio am ofal seibiant ers sawl blwyddyn. Sbardunodd hyn eu penderfyniad i wneud cais i ddod yn ofalwyr maeth awdurdod lleol.
Fodd bynnag, yn ystod eu hasesiad, gwnaeth Michelle y penderfyniad i roi’r gorau i weithio a dod yn ofalwr maeth amser llawn. Dywed: “Rydym bellach yn cael y fraint o ddarparu gofal amser llawn i fachgen bach a gofal seibiant i oedolyn ifanc, y mae’r ddau ohonynt ag anghenion ychwanegol. Mae’r ddau wedi ymgartrefu’n dda iawn yn ein teulu ac yn dod â llawer o hwyl a chwerthin i’n cartref. Nid oes angen i ofalwr maeth ymrwymo i ofalu’n amser llawn i wneud gwahaniaeth enfawr a chadarnhaol ym mywyd plentyn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n meddwl am faethu i gymryd y cam cyntaf ar yr hyn a fydd yn daith llawn boddhad.”