stori

Liz ac Dan

agorodd liz a dan eu calonnau a’u cartref a daethant yn ofalwyr maeth ym mis mai 2021

“Ar ôl gweithio am flynyddoedd lawer fel athrawes ysgol gynradd mewn ardal o amddifadedd eithafol, roeddwn yn ymwybodol bod fy ystafell ddosbarth yn lle i feithrin ac yn lle o ddiogelwch i lawer o blant a oedd yn agored i niwed, ond roedd y gofal y gallwn ei gynnig yn gyfyngedig. Cyn y pandemig, bu fy ngŵr a minnau’n ymchwilio i ofal maeth, ond roeddem yn ffodus iawn i gael mynd drwy’r cam asesu a’r panel yn ddigidol. Mewn gwirionedd, fe roddodd y pandemig y lle a’r ysgogiad yr oedd eu hangen arnom i gwblhau’r asesiad yn gyflym gan fod gennym ddigon o amser i gwblhau ein tasgau “gwaith cartref”. Roedd y cam hwn o’r asesiad yn hynod gathartig, ac yn caniatáu i ni’n dau ddeall yn llawn y galluoedd a’r nodweddion cadarnhaol y gallem ni eu cynnig i faethu. Gan weithio ochr yn ochr â’n gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol, cafodd bachgen ifanc ei leoli gyda ni, ac y mae wedi dod â chymaint o hwyl a chwerthin i’n cartref ni. Mae cynnig cartref iddo yn agos i’r ysgol wedi caniatáu iddo gadw ei ymdeimlad o hunaniaeth a threftadaeth, wrth ymgartrefu yn ein bywyd teuluol ni.”

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A castle in Pembrokeshire

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch