blog

7 rheswm dros faethu plentyn yn ei arddegau

Yn ei raglen ddiweddar ar y BBC, Teens in Care, archwiliodd Joe Swash brofiadau plant yn eu harddegau a oedd yn derbyn gofal, gan ganolbwyntio ar blant 16 oed a hŷn a’r hyn sy’n digwydd iddynt pan fyddant yn ddeunaw oed ac yn gadael y system ofal.

Yn ôl StatsCymru, mae dros 56% o’r plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn yr ysgol uwchradd.

Fel pob unigolyn ifanc a phlentyn yn ei arddegau, maent yn mynd trwy gyfnod heriol yn eu bywydau a gallant elwa’n sylweddol o fod yn rhan o deulu maeth.

Yn y blog hwn, byddwn yn edrych ar y rhesymau pam fod pedwar teulu maeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi dewis maethu plant hŷn ac yn rhannu pam eu bod yn meddwl fod gofalu am blant yn eu harddegau yn dod â chymaint o foddhad iddynt.

plant yn eu harddegau yn rhoi boddhad? ydych chi o ddifrif?

Gall maethu plentyn yn ei arddegau fod yn heriol iawn, ond gall fod yn brofiad gwerthfawr iawn hefyd.

Beth bynnag yw eu profiadau, gall plant hŷn elwa’n sylweddol o sefydlogrwydd, cefnogaeth a gofal teulu maeth yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn.

Gall gofalwr maeth eu helpu i ddelio â’u hemosiynau, i feithrin eu hyder, i ddatblygu sgiliau bywyd ymarferol, eu hannog i fynychu’r ysgol neu’r coleg a chefnogi eu cyfnod pontio i fyd oedolion ac annibyniaeth.

Gallwch gael canlyniadau cadarnhaol sy’n rhoi cymaint o foddhad.” Mandy a Neil Balfe, Sir Benfro

mae angen gofal maeth ar blant yn eu harddegau, am yr un rhesymau â phlant iau

Mae plant yn eu harddegau yn derbyn gofal am yr un rhesymau â phlant iau – i’w cadw’n ddiogel.  Efallai eu bod wedi dioddef esgeulustod, camdriniaeth neu golled.  A dweud y gwir, mae hyd yn oed mwy o angen y gefnogaeth, yr arweiniad a’r cariad y mae gofalwyr cyson yn eu darparu ar adeg heriol yn eu bywydau.

Gall darparu cartref anogol, trefn a therfynau fod o fudd hirdymor ar adeg pan fo rhaid iddynt, fel unrhyw blant eraill yn eu harddegau, wneud penderfyniadau pwysig am eu dyfodol.  Os gallwch chi gydymdeimlo a gweld y tu hwnt i’w hymddygiad i ddeall sut maent yn teimlo, gallwch eu helpu i oresgyn y pryderon a’r rhwystredigaethau hynny.

“Mae ganddyn nhw fwy o fewnwelediad i’w llesiant eu hunain ac rydyn ni’n ei chael hi’n llawer haws datblygu eu hannibyniaeth ac annog dewisiadau bywyd cadarnhaol.” Emma a Jo Johnstone, Sir Gâr

mae plant yn eu harddegau yn fwy annibynnol

Mae plant hŷn a phlant yn eu harddegau yn fwy annibynnol, gallant ofalu amdanynt eu hunain, ac yn gyffredinol, maent mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser ac felly nid oes angen cymaint o  oruchwyliaeth ymarferol arnynt â phlant iau. Golyga hyn y gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc tra’n parhau i weithio.

“Mae plant hŷn a phlant yn eu harddegau yn gwneud cymaint mwy drostynt eu hunain. Mae plant iau yn mynnu eich sylw drwy’r dydd bob dydd. Mae gan blant hŷn fwy o ddealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd yn eu bywydau, ac weithiau gallant weld yr hyn sy’n gadarnhaol am fod mewn gofal.” Mandy a Neil, Sir Benfro

mae plant yn eu harddegau yn addas i’n teulu ni

Efallai eich bod yn poeni am yr effaith negyddol y gallai unigolyn ifanc ei chael ar eich plant a’ch teulu eich hun, ond a ydych wedi meddwl sut y gallai eich plant elwa o fod yn rhan o deulu sy’n maethu?

Gall maethu plant yn eu harddegau gael effaith gadarnhaol ar eich plant eich hun a deinameg eich teulu.

Bydd eich plant yn dysgu sgiliau bywyd pwysig, yn datblygu empathi a deallusrwydd emosiynol, gweithio mewn tîm, ac yn datblygu i fod yn ofalwyr maeth eu hunain efallai. Gall fod yn anodd ar brydiau, ond mae llawer o blant o deuluoedd sy’n maethu yn dweud eu bod wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer o fod yn rhan o deulu sy’n maethu, a bydd y plant yn eu harddegau yr ydych yn eu croesawu i’ch cartref yn aml yn cael dylanwad cadarnhaol arnynt.

“Mae’n ategu’n bywyd teuluol gan fod gennym ni wyrion ifanc. Maen nhw wrth eu bodd gyda’n plentyn maeth!” Emma a Jo, Sir Gâr

nid yw plant yn eu harddegau y tu hwnt i gymorth

Fel gofalwr maeth, gallwch helpu i lywio rhagolygon unigolyn ifanc a gwneud yn siŵr ei fod yn cael pob cyfle i wireddu ei freuddwydion. P’un a yw hynny’n golygu ei helpu i feithrin sgiliau bywyd i roi hwb i’w annibyniaeth neu ei arwain trwy geisiadau coleg neu gyfweliadau am swydd, gallwch chwarae rhan hanfodol ar gam hollbwysig yn ei fywyd.

Efallai mai’r cyfan y bydd ei eisiau yw’r cyfle i fwynhau cinio dydd Sul o amgylch y bwrdd neu gael sesiwn ‘bampro’, rhywbeth nad yw wedi ei gael o’r blaen o bosibl. 

“Mae gofalu am blentyn oed uwchradd yn cynnig llawer o fuddion i ni. Rydym ni’n gallu ei gyflwyno i chwaraeon a gweithgareddau hwyliog ac anturus y gall eu gwneud gyda ni ac yn y gymuned!” Emma a Jo, Sir Gaerfyrddin

“Er gwaethaf yr heriau niferus rydyn ni’n eu hwynebu, rydyn ni dal i fwynhau ac yn ceisio rhoi 100%.” Mark a Vicky, Sir Benfro

gallwch eu gwylio yn dechrau eu bywydau eu hunain

Beth bynnag fo’u profiadau yn y gorffennol, gall amgylchedd teuluol sefydlog a diogel wneud y byd o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc a gall ddod â chymaint o foddhad i chi.

Erbyn iddynt gyrraedd deunaw oed, byddwch wedi eu harwain trwy gyfnod tyngedfennol yn eu bywyd.

Gallwch gadw mewn cysylltiad wrth iddynt gael swydd, wrth iddynt fwynhau yn y coleg, graddio a chychwyn teulu eu hunain.

Gallwch fod yn gefn cyson iddynt yn eu bywyd ac yn unigolyn diogel y gallant droi ato.

“Mae un dyn ifanc roedden ni’n gofalu amdano bellach yn 26. Mae’n ffonio neu’n anfon neges destun bron bob dydd ac yn dod i ymweld â ni.  Dysgodd grefft ei hun, mae ganddo wraig a dau o blant ac mae ganddo fywyd hyfryd. Mae wedi bod fel mab i ni ac rydym ni mor falch o’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Fe ddaethant i ymweld â ni ychydig wythnosau yn ôl, a oedd yn hyfryd. Ar eu ffordd adref cefais alwad ffôn i ddweud eu bod wedi torri lawr yng nghanol Aberhonddu ac nad oedd ganddyn nhw arian.  Roedd yn bleser gen i ei helpu, a byddaf yn ei helpu am weddill fy oes oherwydd mae’n rhan ohonom ni.” Chris, Ceredigion
“Er bod y dyn ifanc sydd wedi bod yn rhan o’n teulu ers chwe blynedd yn dal i wneud i ni bryderu o bryd i’w gilydd, rydyn ni’n dal i’w garu a’i gefnogi. Bydd yn parhau i fod yn rhan o’n teulu ac yn parhau i dderbyn y cariad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arno nes ei fod yn barod i fod yn gwbl annibynnol.” Mark a Vicky, Sir Benfro

gallwch chi helpu plentyn yn ei arddegau

Nid oes angen i chi fod wedi bod yn rhiant eich hun i faethu plentyn yn ei arddegau a’i arwain drwy’r cyfnod hollbwysig hwn yn ei fywyd.  Os ydych chi wedi gweithio neu wirfoddoli gyda phlant, fe allech chi wneud gwahaniaeth iddyn nhw. Gall rhoi clust i wrando a chynnig sefydlogrwydd, cyngor ac arweiniad roi sylfaen iddynt allu adeiladu dyfodol gwell.

Helpwch nhw i wneud y canlynol:

  • Dysgu sgiliau pwysig, ymarferol ac emosiynol a fydd eu hangen arnynt yn eu bywydau yn y dyfodol
  • Rhannu eu teimladau neu bryderon, i’w helpu i’w deall
  • Cefnogi eu llwyddiannau addysgol yn yr ysgol neu’r coleg, neu eu harwain i astudio mewn prifysgol neu addysg bellach
  • Datblygu hobïau a diddordebau
  • Dysgu sgiliau bywyd hanfodol, cwblhau eu ffurflen gais ar gyfer eu swydd gyntaf neu gael trefn ar eu harian
  • Datblygu eu hyder i’w helpu i sefydlogi a chael trefn ar eu bywydau
  • Cyrraedd eu llawn botensial.

Os ydych chi’n byw yn Sir Benfro ac yn dymuno darganfod mwy am faethu plant hŷn a phlant yn eu harddegau, anfonwch neges atom a byddwn yn cysylltu cyn gynted â phosibl. Neu gallwch ein ffonio ar 01437 774650 am sgwrs gyfeillgar.

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth angenrheidiol am faethu a manylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers

A castle in Pembrokeshire

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Sir Penfro yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Penfro yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.