stori

katrin a tom

Mae’r pâr priod Katrin a Tom yn cefnogi dyn ifanc, sydd bellach yn ei 20au cynnar, a dwy ferch ifanc o’u cartref yn Sir Benfro.

y teulu maeth

Dechreuodd Katrin a Tom ar eu taith faethu ar ôl iddyn nhw ddarganfod eu hawydd i gynnig cartref teuluol sefydlog i blant. 

“Roedd Tom yn gweithio yn yr heddlu, ac roeddwn i’n gweithio fel cynorthwyydd addysgu lle rhoddais gymorth 1-2-1 i bob math o blant ysgol gynradd. Roedd rhai ohonyn nhw mewn teuluoedd maeth. Gwelais y plant hyn yn cael eu symud o un teulu i’r llall a gallwn weld y gofid a’r cynnwrf yr oedd yn eu hachosi iddyn nhw.

“Fe ddechreuodd chwarae ar fy meddwl ac fe wnaeth i mi feddwl. Roedd gennym dŷ gwag, gan fod ein plant wedi tyfu i oed ac wedi symud allan, a’r gefnogaeth a’r strwythur i roi cartref sefydlog i’r plant hyn – felly, roeddem yn meddwl y byddem yn fentrus ac yn rhoi cynnig arni!”

“ni yw ei fam a’i dad”

Mae Katrin a Tom wedi bod yn maethu ers dros ddeng mlynedd bellach ac yn credu na allent wneud hynny heb dîm Maethu Cymru Sir Benfro a’r berthynas wych y maen nhw wedi’i meithrin gyda’u gweithiwr cymdeithasol. 

“Mae gwybod ei bod hi ar ddiwedd y ffôn yn gwneud i ni deimlo nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain – rydyn ni i gyd yn rhan o hyn gyda’n gilydd.”

Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw ddwy ferch ifanc yn aros gyda nhw, ond dechreuodd eu taith faethu gyda Josh, a ymunodd â’u teulu pan oedd ond yn ddeg oed. 

“Cyn iddo ddod aton ni, roedd wedi cael ei symud o amgylch gwahanol deuluoedd maeth. Doedd dim sefydlogrwydd ganddo nac un person y gallai ddibynnu arno. 

“Mae e’n 21 oed erbyn hyn ac ni allen ni fod yn fwy balch ohono. Er gwaethaf ei ddechrau mewn bywyd, gwnaeth yn dda yn yr ysgol ac arhosodd gyda ni am yr holl flynyddoedd hynny. 

Pan drodd Josh yn 18 oed, addasodd Katrin a Tom adeilad allanol yn eu gardd i roi peth annibyniaeth iddo, cyn iddo deimlo’n barod i symud ymlaen. 

Mae bellach wedi adeiladu bywyd a dyfodol iddo’i hun; mae ganddo yrfa, a theulu ei hun. Ac rydyn ni mor falch o fod wedi chwarae rhan yn hynny.”

“rydyn ni’n ymdopi fel teulu”

“Roedd rhai adegau anodd iawn yn y dechrau, ond llwyddon ni i ddod drwyddyn nhw – fel teulu – oherwydd bod Josh ein hangen ni. Bydden ni’n cymryd anadl ddofn ac yn cofio nad ei fai ef oedd hynny.”

Nid oedd y daith bob amser yn hawdd, ond daethant drwyddi gyda’i gilydd â chryfder a chefnogaeth eu huned teulu maeth.

am ddechrau eich stori faethu eich hun?

Os hoffech groesawu person ifanc i’ch teulu a rhoi amgylchedd sefydlog iddo ffynnu a thyfu, fel Tom, bydden ni wrth ein boddau o glywed gennych. 

Cysylltwch â ni heddiw, a gadewch i ni ddechrau eich taith faethu.

am ddysgu mwy?

Dysgwch fwy am faethu a beth y gallai ei olygu i chi.

Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A castle in Pembrokeshire

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch