
mathau o faethu
Gall maethu ddigwydd am ddiwrnod, am wythnos, am fis neu am oes. Rydyn ni’n canfod beth sydd orau i bob unigolyn.
dysgwch mwyffyrdd o faethu
Os ydych chi’n rhannu ein brwdfrydedd dros wella bywydau, rydych chi’n sicr yn addas ar gyfer maethu.
Y realiti yw, mae angen ein help ar blant ledled Sir Benfro. Mae angen rhywun i wrando arnyn nhw. Rhywun i gredu ynddyn nhw. Mae arnyn nhw angen y cyfle i fod yn nhw eu hunain.
Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth. Eich sgiliau a’ch profiad yw’r pethau pwysicaf. Rydyn ni’n credu bod set sgiliau eang a mwy amrywiol yn rhywbeth cadarnhaol iawn.
Ydych chi’n dal i fod yn ansicr a yw maethu yn addas i chi? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.
Dim ots pwy ydych chi, mae maethu yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i blant yn eich cymuned leol. Mae angen gwahanol bobl yn y maes maethu hefyd. Rydyn ni’n annog amrywiaeth o ofalwyr maeth, oherwydd cefndiroedd, profiadau a syniadau amrywiol yw’r union beth sydd ei angen ar blant yn Sir Benfro.
O ran pwy sy’n gallu maethu, rydyn ni’n gofyn: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?
Rydyn ni’n deall bod gan ofalwyr maeth ymrwymiadau gwaith gwahanol, a’n rôl ni yw dod o hyd i ateb sy’n gweithio i chi a’r plant yn ein gofal.
Mae maethu yn benderfyniad mawr. Bydd yn eich newid chi. Mae angen ymrwymiad a hyblygrwydd, felly os oes gennych chi swydd llawn amser, gall hyn olygu bod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch gan eich teulu a’ch ffrindiau agos. Dydy eich swydd chi ddim yn rhwystr, ond mae’n rhywbeth rydyn ni’n ei ystyried pan fyddwn ni’n gwneud argymhellion ynghylch pa fath o ofal maeth fyddai orau i chi.
Os ydych chi’n teimlo’n ddiogel yn lle rydych chi’n byw, yna gallai plentyn deimlo’n ddiogel hefyd. Gallwn weld beth sy’n gweithio orau i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n ei alw’n gartref.
Gallai’r ystafell ychwanegol y byddwch yn ei defnyddio ar gyfer storio gael ei thrawsnewid yn hafan ddiogel i blentyn maeth. Rhywle yn arbennig iddo ef neu hi.
Mae pob teulu maeth yn wahanol, ac mae hynny’n wych! Os oes gennych chi blant eich hun, mae gofalu am blant maeth yn golygu ychwanegu at eich teulu a charu a gofalu am fwy o bobl.
Mae deinameg brodyr a chwiorydd yn gyfle gwych i’ch plant maeth a’ch plant eich hun brofi rhywbeth anhygoel. Datblygu cyswllt a allai bara oes.
Does dim terfyn oedran ar gyfer maethu, rydyn ni’n credu y gallwch chi helpu i gael effaith gadarnhaol ar fywyd rhywun, beth bynnag yw eich oed. P’un ai ydych chi’n 27 oed neu’n 77 oed, bydd gennych lawer o wybodaeth a gall plentyn ddysgu cymaint oddi wrthych chi. Gyda chymorth Maethu Cymru Sir Benfro, bydd help ar gael yn rhwydd i chi.
Mae profiad bywyd yn fantais fawr, ond dydy bod yn ifanc ddim yn golygu na allwch fod yn rhan o’r teulu maethu. Gyda’n rhwydwaith cefnogi i’ch arwain, gallwch fwynhau’r daith, beth bynnag fo’ch oedran. Os hoffech chi helpu, hoffen ninnau eich helpu chi.
Fydd bod yn briod neu’n rhan o unrhyw berthynas ddim yn effeithio ar eich gallu i newid bywyd plentyn. Yr hyn sydd ei angen ar y plant hyn yw sefydlogrwydd, cariad a chysylltiad.
Heb os nac oni bai. Unwaith eto, rydyn ni’n croesawu amrywiaeth oherwydd mae’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw angen hynny. Eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch natur ofalgar sydd bwysicaf.
Dydy yw eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ffactor o ran maethu. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich ymrwymiad i fod y person sy’n gwrando ac sy’n gofalu, rhywun sy’n cynnig lle diogel i blentyn.
Gall anifeiliaid anwes y cartref fod yn effeithiol iawn gyda rhai plant maeth o ran eu helpu i ddysgu cyfrifoldeb, gofal a dealltwriaeth. Byddwn yn eu cynnwys yn eich asesiad, er mwyn gwneud yn siŵr y byddan nhw ac unrhyw blant maeth yn y dyfodol yn cyd-dynnu’n dda.
Mae gan Awdurdodau Lleol wahanol bolisïau sy’n ymwneud ag ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts) a gofal maeth, a’r peth pwysicaf yw bod yn onest. Byddwn yn cynnig arweiniad ar sut i roi’r gorau iddi os hoffech chi wneud hynny. Ym mhob achos, mae’n golygu dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.
Dydy eich swydd chi ddim yn ffactor sy’n pennu a gewch chi fod yn ofalwr maeth. Rydyn ni’n gwybod y gall pethau newid yn gyflym. Fydd diweithdra ddim yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth – y gefnogaeth, y cariad a’r gofal y gallwch eu darparu yw’r pethau pwysicaf.
Mae pob cartref yn wahanol. Os yw eich un chi’n llawn cariad, diogelwch a pharch, mae’n ddigon mawr.