llety â chymorth

Beth yw llety â chymorth?

Mae amrywiaeth o ddewisiadau llety ar gael i unigolyn ifanc sy’n gadael gofal. Gall rhai ddychwelyd adref neu symud i fyw gyda ffrindiau neu ar eu pen eu hunain ond bydd eraill yn symud i lety â chymorth.

Mae gofalwyr llety â chymorth yn unigolion/teuluoedd cymeradwy sy’n darparu carreg gamu i bobl ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac yn 16 neu 17 oed, pobl sy’n gadael gofal rhwng 16 a 21 oed, a phobl ifanc ddigartref sy’n 16 neu 17 oed.

Mae gofalwyr llety â chymorth ychydig yn debyg i landlordiaid/landledis sy’n cynnig ystafell yn eu cartref, yn darparu brecwast a phryd gyda’r nos, ac yn gweithio gyda’r unigolyn ifanc i’w helpu i ddatblygu sgiliau fel coginio a chyllidebu.

Yr hyn sydd angen i chi ei ddarparu

  • Bydd angen ei ystafell ei hun ar yr unigolyn ifanc gyda gwely a storfa ar gyfer dillad ac eiddo arall.
  • Bydd angen mynediad i’r gegin a’r ystafell ymolchi, a’r ystafell fyw, er y gellir rhannu’r rhain ag aelodau eraill o’r cartref.
  • Dylai’r unigolyn ifanc deimlo’n “gartrefol” a dylai allu gwahodd ffrindiau/teulu ar adegau rhesymol a thrwy gytundeb â chi.
  • Bydd angen i chi roi ei allwedd drws ffrynt ei hun i’r unigolyn ifanc.
  • Parodrwydd i annog annibyniaeth yr unigolyn ifanc.

Pa mor hir fydd unigolyn ifanc yn aros?

Gall hyn amrywio ond yn gyffredinol mae pobl ifanc yn aros rhwng chwe mis i ddwy flynedd. Pan fydd unigolyn ifanc yn symud ymlaen, efallai y byddwch am gymryd seibiant, neu efallai y byddwch am gefnogi unigolyn ifanc arall ar unwaith.

Y math o gymorth sydd ei angen ar bobl ifanc

Bydd y math o gymorth sydd ei angen ar unigolyn ifanc yn amrywio.  Cofiwch mai’r nod hirdymor yw cefnogi datblygiad personol yr unigolyn ifanc, a’i baratoi ar gyfer byw’n annibynnol, gan weithio gyda gweithiwr cymdeithasol neu gynghorydd personol yr unigolyn ifanc.

Mae anghenion cymorth nodweddiadol yn cynnwys:

  • Cyngor ar gyllidebu a budd-daliadau
    • Cyngor a chymorth gyda siopa am fwyd a choginio
    • Cyfarwyddyd ar sut i ddefnyddio offer cartref yn ddiogel
    • Cymorth i drefnu a chadw apwyntiadau
    • Cymorth i gynnal presenoldeb mewn hyfforddiant, coleg neu waith
    • Cefnogaeth i gynnal a meithrin perthynas gyda theulu/ffrindiau/cymdogion
    • Cefnogaeth i reoli ymwelwyr
    • Cymorth i gynnal diogelwch y tŷ
    • Anogaeth i gydymffurfio â “rheolau’r tŷ”
    • Sgwrsio a darparu “clust i wrando”
    • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd adolygu achlysurol

Nid oes angen i gymorth cael ei strwythuro na’i amserlennu’n ffurfiol, ond mae’n bwysig bod yr unigolyn ifanc yn gwybod bod cymorth ar gael pan fydd ei angen. Mae hyn yn debygol o fod ar ei uchaf yn yr wythnosau cynnar, pan fydd yr unigolyn ifanc a’r gofalwr yn dod i adnabod ei gilydd.

Lady and teenage boy leaning on a fence

stori doreen

Rwyf wedi bod yn ddarparwr llety â chymorth ers dros 34 o flynyddoedd a dechreuais yn y rôl fel rhiant sengl pan oedd fy mhlant yn dal yn eithaf ifanc. Rydym yn dal mewn cysylltiad â nifer o’r bobl ifanc hyn heddiw ac rydym yn eu hystyried yn rhan o’n teulu estynedig.

darllen stori

Get In Touch

  • Cyngor Sir Penfro yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Penfro yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.